Disgrifiad o’r weminar
Recordiad ar-alw
Gwyliwch ein gweminar ar-alw ar gyfer arweinwyr ysgolion sydd wedi’u hardystio ar gyfer DPP, lle cewch eich cefnogi i fabwysiadu dull ysgol gyfan o ymdrin â pherthnasoedd iach.
Mewn dim ond awr, byddwn ni’n trafod beth yw dull ysgol gyfan a sut gallwch chi greu diwylliant o ddiogelwch a pharch yn eich ysgol. Hefyd, byddwn ni’n eich tywys drwy’r hyn sy’n newydd yn Trafod Perthnasoedd - gan gynnwys deunyddiau e-ddysgu wedi’u hadnewyddu ar gyfer athrawon, adnoddau a ffilmiau ar gyfer gweithio gyda rhieni a gofalwyr, a'r pecyn GRYMUSO sy’n rhoi llais i bobl ifanc ynglŷn â’u haddysg rhyw a pherthnasoedd.
Drwy gwblhau’r weminar hon, byddwch yn cael strategaethau arwain ymarferol i sicrhau cysondeb ar draws diwylliant yr ysgol, lle gwneir meithrin a modelu perthnasoedd iach yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd yn yr ysgol.